Mae'r Iesu mawr yn maddeu

(Helaethrwydd maddeuol Ras)
Mae'r Iesu mawr yn maddeu
  Pechodau rif y gwlith;
'Does fesur ar ei gariad,
  Na therfyn iddo byth;
Mae'n 'mofyn lle i dosturio,
  Mae'n hoffi trugarhau;
Trugaredd i'r amddifaid
  Sydd ynddo i barhau.

Agorodd ddrws i'r caethion
  I dd'od o'r cystudd mawr;
A'i werthfawr waed fe dalodd
  Eu dyled oll i lawr;
Nid oes dim damnedigaeth
  I neb o'r duwiol hâd;
Y gwaredigion ganant
  Am rinwedd mawr ei waed.

Aed son am Geidwad enaid,
  I dir yr India draw,
A boed i filwyr Seion
  Orchfygu ar bob llaw;
I lawr y delo'r delwau, -
  A'r holl eilunod mud,
A'r Iesu fo'n teyrnasu
  Dros holl derfynau'r byd.
1-2: Morgan Rhys 1716-79
3 : Anhysbys (Cas. S Roberts 1841)

Tôn [7676D]: Areli (alaw Seisnig)

gwelir:
  Aed son am Geidwad enaid
  Agorodd ddrws i'r caethion
  Mae Crist a'i w'radwyddiadau
  Pa dduw ymhlith y duwiau?
  Wel dyma'r Un sy'n maddeu

(The Abundance of forgiving Grace)
Great Jesus is forgiving
  Sins numerous as the dew;
There is no measure to his love,
  Nor end to it ever;
It is asking for room to show pity,
  It likes to be merciful,
Mercy to the destitute
  Which is enduring in him.

He opened a door for the captives
  To come from the great tribulation;
With his precious blood he paid
  All their debt down;
There is no condemnation
  To anyone from the godly seed
The delivered shall sing
  About the great merit of his blood.

Let the sound about a soul's Saviour go
  To the land of yonder India,
And let the soldiers of Zion be
  Overcoming on every hand;
Down let the images come, -
  And all the mute idols,
And Jesus be reigning
  Over all the ends of the world.
tr. 2018 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~